Croeso i Wefan Cymunedol Tref Porthaethwy
3000-2000 CC – Oes Neolithig - darganfuwyd bwyelli carreg o'r oes hon.
2000-1000 CC – Oes Efydd – darganfuwyd wrnau claddu. Mae 8 bwyell bres Porthaethwy yn dyddio o’r cyfnod hwn.
Rhufeiniaid – Darganfuwyd 37 o ddarnau arian yn dyddio o 218 - 268 OC. Cawsant eu darganfod ar safle Coed Cyrnol heddiw( ers talwm yn llwybr caregog , yn arwain o bosibl at safle croesi cynnar).
61 OC - Y Rhufeiniaid yn croesi’r Fenai am y tro cyntaf; mae’n debyg, yn agos i Fiwmares heddiw. Cofnodwyd hyn gan Tacitus, awdur Rhufeinig.
4ydd i'r 9fed Ganrif – Yn ystod y cyfnod hwn, buasai ymsefydlwyr Gwyddelig a Llychlynwyr wedi meddiannu rhannau o Fôn, yn ogystal â rhai o dywysogion Cymru.
1188 – Archesgob Caergaint a Gerallt Gymro yn croesi i Fôô fel rhan o’u hymgyrch i gael recriwtiaid o Gymru i’r Croesgadau. Mae’n debyg iddynt lanio yng Nghilfach Cadnant.
1194 – Brwydr Porthaethwy – dyma’r cofnod ysgrifenedig cyntaf am Borthaethwy. Yn y frwydr hon, trechodd Llewelyn ap Iowerth (Llywelyn Fawr) ei ewythr, Rhodri fab Owain Gwynedd.
1400au Cynnar – Adeiladwyd yr eglwys fechan ar Ynys Tysilio, sef adeilad hynaf Porthaethwy. Mae’n debyg bod yna eglwys ar y safle cyn hyn.
1589 – Y cofnod cyntaf o goredau pysgod ar Ynys Gorad Goch. Codwyd nifer o goredau pysgod yn ystod y cyfnod hwn.
1590au – Codwyd melin llanw ger Ynys Tysilio. Gellir gweld ei gweddillion yn glir hyd heddiw.
1594 – 1594 Y Frenhines Elisabeth yn prydlesu fferi i John Williams.
1630 – Y fferi ar draws y Fenai yn nwylo teulu Thomas Williams o 1630 tan 1826.
1681 – Y cofnod cyntaf o Ffair Borth.
1688 – Tŷ Fferi Porthaethwy (a alwyd weithiau yn Tŷ Fferi Bangor) yn cael ei sefydlu. Mae’r enw wedi newid sawl gwaith ond ynghanol y 19eg ganrif roedd yn cael ei adnabod fel y Cambria Inn. Mae’r adeilad yno hyd heddiw a dyma adeilad hynaf Porthaethwy.
1805 – Yr Arglwydd Bulkley yn comisiynu codi ffordd rhwng Porthaethwy a Biwmares.
1814 – Pasio’r Ddeddf Cau Tiroedd a thir comin yn cael ei gau.
1822 – Sefydlu’r gwasanaeth paced cyntaf rhwng Lerpwl a Phorthaethwy.
1826 – Agor y bont grog - Pont Telford.
1827 – Deddf Cau Tiroedd 1814 yn cael ei gweithredu. Mwyafrif y tiroedd ym Mhorthaethwy yn mynd i Iarll Uxbridge, Ardalydd Cyntaf Ynys Môn.
1828 – Richard Davies yn agor y siop groser cyfanwerth gyntaf ar lannau’r Fenai. Yn ddiweddarach roedd y teulu yn cludo coed o amgylch y byd ac fe ymfudodd llawer o deuluoedd i Ogledd America ar eu llongau.
1850 – Llongau’r teulu Davies yn dechrau cludo ymfudwyr i America a Canada.
1853 – Agor yr Ysgol Genedlaethol yn ymyl Eglwys Santes Fair.
1891 – Cwmni Llongau Stêm Lerpwl a Gogledd Cymru yn cael ei ffurfio
1904 – Menai Agor Promenâd Menai Porthaethwy yn swyddogol gan David Lloyd George. Twristiaid yn ymweld â Phorthaethwy er mwyn cael gweld y bont. Troi Carreg-yr-Halen yn draeth bob blwyddyn trwy ddod â thywod yno.
1905 – Gwerthu llong olaf teulu Davies.
1914-1918 – Rhyfel Byd Cyntaf: ffoaduriaid o wlad Belg yn dod i Borthaethwy. Adeiladwyd Promenâd y Belg.
1953 – HMS Conwy yn cael ei dryllio o dan Bont y Borth.
1962 – Cwmni Llongau Stêm Lerpwl a Gogledd Cymru yn dod i ben.
2008 - Er gwaethaf cyfnod o siopau’n cau yn y 70au, mae Porthaethwy heddiw yn dref siopa brysur ac yn ganolfan masnach bwysig. Mae’n braf gweld nifer o siopau’r Stryd Fawr yn cael eu hadnewyddu yn ôl y cynlluniau gwreiddiol.