Croeso i Wefan Cymunedol Tref Porthaethwy
O ganlyniad i waith Telford ar y bont, cafodd ei gydnabod fel cawr o beiriannydd. Yn ogystal â hyn, roedd y bont wedi lleihau'r daith rhwng Llundain a Chaergybi a'i gwneud yn fwy diogel. Cafodd yr amser teithio ei leihau o 36 awr i 27 ar ôl i'r holl welliannau gael eu gorffen.
Mae llawer o adroddiadau hanesyddol i'w cael am ddigwyddiadau tu fewn i ffiniau'r dref. Yn 1188 glaniodd Archesgob Caergaint ar lannau Ynys Môn gyda Gerallt Cymro mewn cais i gynyddu'r cymorth ar gyfer y Croesgadau. Mae'n debyg iddynt lanio yng Nghilfach Cadnant neu yn agos i Ynys Tysilio. Mae'r Eglwys ar Ynys Tysilio yn dyddio yn ôl i'r 15fed canrif, ond mae haneswyr yn fwy neu lai yn sicr bod un lai wedi bod ar yr un safle am y canrifoedd cynt.
Un o ddigwyddiadau mawr hanes Cymru yw Brwydr Porthaethwy yn 1194. Yn ystod y Frwydr lladdodd Llewelyn ap Iorwerth (Llewelyn Fawr) ei ewythr Rhodri, mab Owain Gwynedd. Dyma'r cofnod ysgrifenedig cyntaf o enw Porthaethwy.
Erbyn diwedd y 1500au, mae stori hanes y dref yn dangos sut y newidiodd yr ardal fel y mae i'w weld heddiw. Mae'r Afon Menai i'w gweld fel man pysgota pwysig, a chafodd coredau pysgod a melin llanw eu hadeiladu yn yr ardal. Mae'r dogfennau cyntaf am longau yn croesi'r Fenai yn dyddio o'r un adeg. Yn ystod y 100 mlynedd nesaf, tyfodd y dref yn araf. Yn 1681, cynhaliwyd y Ffair Borth gyntaf. Yn 1688 agorwyd Tŷ Fferi Bangor (neu Cambria Inn) i'r cyhoedd. Mae'r adeilad yn dal i sefyll, a'r adeilad hwn yw'r hynaf yn y dref.
Yn 1805, comisiynodd y bonheddwr lleol, yr Arglwydd Bulkely adeiladu ffordd i gysylltu Porthaethwy â Biwmares. Ar ôl i'r ffordd gael ei orffen, a gyda chymorth y bont newydd cynyddodd nifer yr ymwelwyr i Borthaethwy. Cychwynwyd gwasanaeth llongau bach rhwng Lerpwl a Phorthaethwy. Symudodd pobl i fyw i'r dref, cynyddodd y boblogaeth a dechreuodd busnesau ffynnu.
Busnes mwyaf llwyddiannus y dref oedd un teulu Richard Davies. Yn fuan ar ôl agor Pont y Borth agorodd ei siop groser gyntaf ar lan y Fenai. Tyfodd y busnes yn gyflym a phrynwyd llongau. Cariai'r llongau lechi i bob rhan o'r byd gan gario coed yn ôl i'r Borth. Ymfudodd cannoedd o bobl i America ar y llongau hyn. Bu'r teulu'n ddylanwadol iawn yn yr ardal a pharhaodd y busnes tan 1905 pan werthwyd yr olaf o'r llongau.
Parhaodd y dref i ffynnu hyd at ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn y blynyddoedd hyn, cafodd y dref ei throi yn dref wyliau Edwardaidd, a theithiai cychod o Lerpwl i'r dref i gludo'r twristiaid. Mae'n debyg, mai yn y cyfnod hwn, y datblygodd enw Saesneg y dref sef, 'Menai Bridge'.
Cafodd promenâd ei adeiladu a chafodd traethau eu creu ar lannau'r Fenai yn agos i'r dref. Yn ystod y rhyfel, adeiladodd y ffoaduriaid o Wlad Belg y Promenâd Belgaidd. Yn anffodus, ar âl problemau'r farchnad caeodd cwmni Llongau Stêm Lerpwl a Gogledd Cymru yn y 1960au, gan dorri cyswllt y dref gyda'u hymwelwyr.