Croeso i Wefan Cymunedol Tref Porthaethwy
Mae tref Porthaethwy ar lan yr Afon Menai yn ne-ddwyrain Ynys Môn (gweler y map). Mae'r enw 'Porthaethwy' yn dod o'r geiriau 'porth' a 'Dindaethwy' sef enw llwyth lleol. Ystyr 'porth' yw fferi, felly ystyr yr enw yw 'fferi llwyth y Dindaethwy'. Heddiw mae gan Borthaethwy boblogaeth o tua 3,850.
Er bod y rhan fwyaf o'r hen fusnesau wedi cau neu wedi symud i safleoedd newydd, mae nifer o fusnesau bychain yn darparu gwasanaethau yn y dref. Wrth gerdded i lawr y stryd fawr gallwch weld amrywiaeth y gwasanaethau sydd ar gael: cigydd, siop nwyddau cyffredinol, canolfan ddylunio ceginau, siopau hen bethau, banciau, gwerthwyr tai, siopau llyfrau a phapurau, bwytai a mwy. Mae swyddfa Prosiect Menai wedi'i lleoli ar brif sgwâr y dref.
Map yn dangos lleoliad Porthaethwy ac ardal busnes y dref.Mae un o bum ysgol uwchradd Ynys Môn yn y dref, Ysgol David Hughes. Mae'r ysgol wedi'i lleoli yn y dref ers 1963 pan symudodd o'i safle gwreiddiol ym Miwmares. Mae hyd at 1,400 o ddisgyblion yn yr ysgol sydd yn ei gwneud yn ysgol fwyaf Ynys Môn ac yn un o’r rhai mwyaf yng Ngogledd Cymru. Mae hi hefyd yn un o ysgolion mwyaf llwyddiannus yr ardal. Mae yna ysgol gynradd ardderchog ym Mhorthaethwy, Ysgol y Borth.
Yn wreiddiol roedd y maes parcio mawr y tu ôl i'r stryd fawr yn cynnal y ffair flynyddol, Ffair Borth. Mae'r ffair yn dyddio yn ôl i'r 1680au pan oedd yn bennaf yn farchnad gwartheg. Mae'r ffair yn cael ei chynnal o hyd ar 24ain o Hydref. ac yn ystod yr wythnos mae pobl yn dod o ardal eang i fwynhau'r reidiau a stondinau.
Mae Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor, wedi'i lleoli yn y dref mewn adeiladau yn agos i'r Fenai. Mae ganddynt offer recordio wedi'i leoli yn y Fenai i gadw golwg ar y dŵr. Mae llong ymchwil yr Ysgol, y Prince Madog, yn aml wedi'i docio ar Bier Sant George lle'r oedd llongau stêm yn dod ag ymwelwyr o Lerpwl flynyddoedd yn ôl. Mae'r stemar enwog, y Balmoral, yn dod yma bob blwyddyn i fynd â phobl am fordaith o gwmpas yr ynys.
Mae'r dref yn serennu yn un o gyfresi mwyaf poblogaidd S4C. Mae set y ddrama Rownd a Rownd wedi'i lleoli yng Nghil Bedlam yn agos i'r stryd fawr a'r llyfrgell. Nid yw'n anghyffredin i weld y dref ar y rhaglen neu i weld sêr y sioe o gwmpas y dref.
Mae gan Porthaethwy Gyngor Tref, Siambr Fasnach, Cymdeithas Drefol a nifer o grwpiau a gweithgareddau eraill.