Croeso i Wefan Cymunedol Tref Porthaethwy
Mae Porthaethwy ar lannau’r Afon Menai yn Ne-ddwyrain Ynys Môn.
Porthaethwy oedd enw gwreiddiol y dref. Daeth yr enw Saesneg 'Menai Bridge' ar y dref yn ddiweddarach ar ôl codi’r bont enwog. Mae poblogaeth y dref, ar hyn o bryd tua 3,850.
Wrth gerdded i lawr y Stryd Fawr, gwelir yr amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael: cigydd, siop nwyddau cyffredinol, canolfan dylunio ceginau, siopau hen bethau, gwerthwyr tai ac eiddo, banciau, bwytai, gwerthwyr papurau a llawer mwy.
Mae maes parcio mawr tu ôl i’r Stryd Fawr ar gyfer arosiadau hir a nifer o rai llai yng nghanol y dref ar gyfer arosiadau byr.
Mae set y gyfres ddrama ‘Rownd a Rownd, un o raglenni mwyaf poblogaidd S4C, wedi ei sefydlu yn y dref, ar Lôn Cylbedlam, yn agos i’r Stryd Fawr a’r Llyfrgell. Nid yw’n beth anarferol felly gweld Porthaethay ar y teledu, a gweld sêr y gyfres o gwmpas y dref.
Mae gan Porthaethwy Gyngor Tref, Siambr Fasnach a nifer o grwpiau a gweithgareddau cymunedol.
Gallwch deithio i Borthaethwy mewn sawl ffordd.
Cliciwch yma i fynd i'r dudalen mapiau, lle mae disgrifiad my manwl i'w gael o sut i gyrraedd y dref.